Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Rhagfyr 2018
Amser:
08.30 -
08.49
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb Cwestiynau’r Prif Weinidog ar ei ran heddiw yn ei absenoldeb.
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl y Ddadl Fer a chyn trafodion Cyfnod 3.
· Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.
Gwnaeth y Llywydd y pwynt bod y Pwyllgor Cyllid wedi holi pam y mae’r ddadl ar adroddiad Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’, wedi’i threfnu ar gyfer y diwrnod cyn eu dadl ar adroddiad eu pwyllgor, ‘Cost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio’, (8 a 9 Ionawr 2019, yn y drefn honno). Dywedodd Arweinydd y Tŷ na fyddent yn symud eu dadl, gan fod y ddadl ar adroddiad Holtham wedi cael ei chynllunio ers amser gan y llywodraeth.
Nododd y Pwyllgor Busnes y drefn y bydd busnes yn cael ei drafod ddydd Mercher nesaf, 12 Rhagfyr, fel a ganlyn. Caiff y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ei ddiweddaru yn unol â hynny:
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
Busnes y Llywodraeth
· Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol (60 munud)
· Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) (15 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig (60 munud)
· Dadl Fer – Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 16 Ionawr 2019 -
· Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 12 Rhagfyr:
NNDM6860
Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi adroddiad Ysgol Fusnes Caerdydd, ‘Y Cyflog Byw - Profiad Cyflogwyr’.
2. Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i’w cyflogeion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) nodi mesurau i gefnogi rhagor o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i fabwysiadu’r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn achrededig; ac
b) Ystyried cryfhau’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi mewn perthynas â’r cyflog byw go iawn.
Y Cyflog Byw - Profiad Cyflogwyr
Y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Cefnogwyr:
Rhun ap Iorwerth
Dawn Bowden
Jayne Bryant
Hefin David
Mike Hedges
Helen Mary Jones
Julie Morgan
Rhianon Passmore
David Rees
Mick Antoniw
John Griffiths
Vikki Howells
Mark Isherwood
Jenny Rathbone
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod Unigol nesaf yn y flwyddyn newydd.
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 12 Rhagfyr:
NNDM6893
Jenny Rathbone
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer bil ar atal gwastraff ac ailgylchu.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr mewn perthynas â deunydd pacio a gwastraff pecynnu; a
b) chyflwyno cyfrifoldebau estynedig o ran cynhyrchwyr, i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu’n deg, a bod cynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol trin eu cynnyrch ar ddiwedd ei oes.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu’r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod ar gyfer y flwyddyn newydd.
· Gofynnodd Rheolwyr Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth edrych ar sut y gall y broses gyflwyno ar gyfer Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau gynyddu nifer y cynigion a gyflwynir i’w dewis. Cododd Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o gyhoeddi ymlaen llaw ddau ddyddiad y Dadleuon y tymor, a dechrau’r broses o gyflwyno ar ddechrau’r tymor, er mwyn cynyddu’r amser sydd ar gael i Aelodau ystyried a chyflwyno cynigion.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd hi’n cyhoeddi canlyniadau etholiad cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru ac yn cyhoeddi enwau’r 60 ymgeisydd llwyddiannus ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, a nododd y gefnogaeth a roddwyd gan Aelodau ym mhob un o’r pleidiau i hyrwyddo’r gwaith ar Senedd Ieuenctid Cymru.